Cyfeiriad: Bryn Iago 7 St Lawreance Hill Hakin ABERDAUGLEDDAU Sir Benfro
Ffôn: 01646 695 596
Symudol: 07814 880 589
Ebost: teifryn@aol.com
Fi yw Teifryn neu Ty i ffrindiau sydd efo problemau ynganu Cymraeg! Rwyf wedi fy ngeni yng Ngogledd Sir Benfro, felly rwy’n ddwyieithog ac yn gallu arwain yn y Gymraeg a’r Saesneg a gallaf gynnig teithiau diddorol, llawn gwybodaeth ac yn anad dim, heb straen, teithiau pleserus ar droed neu ar feic, coets neu drên ledled Sir Benfro. Os mai hanes a gwrthdaro’r goresgyniadau Rhufeinig a Normanaidd yw eich diddordeb, neu Sir Benfro yn yr Ail Ryfel Byd, gydag ymweliadau â chestyll, erodromau segur ac Amgueddfeydd Milwrol neu bynciau mwy cyfeillgar o adnabod blodau ac aecheoleg ddiwydiannol ar hyd Llwybr Arfordir Sir Benfro byd-enwog, gallaf cynnig teithiau priodol. Gallaf helpu gyda’ch ymchwil hanes teulu, gydag ymweliadau â lle roedd eich cyndeidiau’n byw, yn caru ac yn marw. Beth am roi cynnig ar fy nhaith gerdded neu feicio blasu 1 diwrnod neu daith 2 awr o’r dref?